Skip to content

Chwefror 2013

    Cynhaliwyd pedwerydd cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Chwefror 27ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lynn Howells cyn iddo groesawu’r gwr a’r wraig wadd sef Islwyn a Gret Evans o Eglwyswrw. Bu Gret yn adrodd hanes eu pererindod i wlad yr Iesu drwy gyfrwng sleidiau, cyflwyniad ac ambell emyn. Dangoswyd nifer o lefydd a nodwyd yn y Beibl lle bu’r Iesu’n ymweld a nhw. Bu Islwyn yn cynorthwyo Gret drwy reoli’r taflunydd. Cafwyd noson ddiddorol iawn a diolchwyd i Gret ac Islwyn gan Eifion Evans. Diolch i Robert am weini cawl blasus iawn yn ol ei arfer.