Skip to content

Chwefror 2010

    Mae Arian i Bawb Cymru wedi dyfarnu grant o £4,950 i’r gangen i’w galluogi i brynu cyfarpar technoleg gwybodaeth megis cluniadur, argraffydd a taflunydd yn ogystal a camra digidol. Rydym hefyd wedi creu gwefan gyda’r grant, y safle we yw www.hoelionwyth.org ac mae’n fwriad i gynnal sesiynau hyfforddiant sylfaenol i’r aelodau ar sut mae defnyddio’r cluniadur yn ogystal a sut i lawr lwytho lluniau o’r camra digidol i’r cluniadur. Mae Arian i Bawb Cymru hefyd wedi cefnogi ein cais i drefnu dwy daith ddiwylliannol ac addysgiadol – y naill i’r Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd a’r llall i Hafod Eryri a Port Dinorwig yn Llanberis. Dywedodd Eurfyl Lewis, Swyddog Adloniant cangen Beca a fu’n gyfrifol am baratoi’r cais “ Rydym yn hynod o ddiolchgar i Arian i Bawb Cymru am ddyfarnu grant sylweddol i Hoelion Wyth cangen Beca. Rydym eisioes wedi prynu’r cyfarpar a byddwn yn bwrw mlaen gyda’r sesiynau hyfforddiant yn fuan.” Cyflwynwyd y siec yn swyddogol i swyddogion y gangen gan Nerys Evans A.C. yn ystod y cinio blynyddol a dymunodd hithau yn dda i ni fel cymdeithas i’r dyfodol. Darllenodd Wyn Evans yr englyn canlynol o’i waith fel arwydd o werthfawrogiad am gefnogaeth Arian i Bawb Cymru :- Er mwyn hybu diwylliant – diolch wnawn Yma heno’n ddiffuant. Arian i Bawb rhoed i ni Awn eto mlaen dros Gymru.

    9glriv
    Nerys Evans A.C. yn cyflwyno siec Arian i Bawb i Eurfyl Lewis, Swyddog Adloniant cangen Beca. Yn y llun hefyd mae Henry Morris, ( Ysgrifennydd ), Gareth Griffiths ( Cadeirydd ) a Ken Thomas ( Trysorydd )