Skip to content

Chwefror 2009

    Cynhaliwyd cinio blynyddol y gangen yn yr HQ yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Ionawr 30ain. Cafwyd gair o groeso gan y Cadeirydd Robert James ac offrymwyd gras gan y trysorydd Ken Thomas. Cawsom wledd arbennig wedi ei pharatoi gan Robert a’i staff ac yna croesawyd y g[r gwâdd sef y sylwebydd Wyn Gruffydd, Llangain (gynt o’r Glôg ). Cafwyd araith hyfryd ganddo yn llawn hiwmor a bu’n sôn am yr holl wledydd bu’n ymweld â nhw wrth iddo sylwebu ar gemau rygbi. Roedd ganddo lond cwdyn o fathodynau adnabod ( rhain oedd ei docyn mynediad i’r maes!) a bu’n adrodd nifer o straeon difyr am y bobl diddorol roedd wedi cyfarfod ar ei deithiau . Soniodd hefyd am yr amser hyfryd cafodd yng nghwmni dau gyfaill agos iddo sef y diweddar annwyl Ray Gravell a Brian Williams. Diolchodd Wyn Evans i Wyn Gruffydd am araith wych a darllenodd yntau yr englyn canlynol o’i eiddo i gyfarch Wyn :- O’r Glôg a’i aml nentydd – un cadarn Ac yn fab i Elerydd, Amryddawn fel sylwebydd Ond heno, ein barchus lywydd. Enillwyd y raffl gan Heather Williams, Veronica Griffiths ac Eurfyl Lewis. Bydd yr aelodau yn cyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf i ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod flynyddol.

    21o6k2h
    Yn y llun gwelir Ken Thomas, Robert James, Wyn Gruffydd (Gwr gwâdd), Wyn Morris ac Eurfyl Lewis