Skip to content

Chwefror 2008

    Cinio Blynyddol Cynhaliwyd cinio blynyddol cangen Beca yn nhafarn yr Oen, Llanboidy ar nos Sadwrn, Ionawr 26ain. Estynwyd gair o groeso gan Ken Thomas ac ef hefyd gyflwynodd gras cyn bwyta. Cawsom wledd hyfryd a diolchodd Eurfyl Lewis i Richard, Non ac Angela Murray am baratoi bwyd bendigedig ar ein cyfer ac i Henry Morris am drefnu’r noson cyn cyflwyno’r wraig wâdd sef Eleri Sion o’r Barri. Mae Eleri yn lais cyfarwydd ar y radio ac yn wyneb adnabyddus ar y teledu a diolchodd Eurfyl iddi am roi o’i hamser prin i ddod i’n diddanu. Bu Eleri yn son sut ddechreuodd ei diddordeb mewn chwaraeon a darlledu ac yna bu’n cymryd rhan mewn sesiwn o gwestiwn ac ateb. Holwyd nifer o gwestiynau treiddgar iddi ac roedd yn medru rhoi pawb yn eu lle yn weddol hawdd gyda’i hatebion cyflym! Cafwyd noson i’w chofio.

    r1ipw6
    Ken Thomas, Henry Morris ac Eurfyl Lewis yng nghwmni Eleri Sion.