Skip to content

Chwefror 2008

    Tafarn Newydd Meidrim oedd lleoliad y Cinio Blynyddol. Ar ôl gwledd o safon arbennig, hoffem ddiolch i Cristopher, Sian a’r staff am y croeso. Y gwr gwâdd oedd Mr. Peter John, Crymych a chroesawyd ef gan y Cadeirydd, Mr. Verian Williams. Cafwyd noson ddiddorol yn gwrando arno yn rhoi adroddiadau gwych a difyr o farddoniaeth. Diolchwyd iddo gan Mr. Ronnie Howells a hoffem ddiolch iddo yntau am drefnu’r noson a oedd mor llwyddiannus. Ym mis Ionawr cynhaliwyd ein Cyngerdd Blynyddol yng Nghlwb yr Hufenfa pan gafwyd gwledd o ganu, o safon uchel, gan Gôr Corlan. Arweinydd y noson oedd Eurfyl Lewis. Croesawodd y Cadeirydd, Mr. Verian Williams, y Llywydd sef Mr. Dafydd Williams, ac fe gafwyd geiriau pwrpasol iawn ganddo a rhodd anrhydeddus. Hoffem ddiolch i Ronnie Howells am drefnu’r noson, i’r gwragedd am baratoi lluniaeth ac i bawb am gefnogi’r cyngerdd. Yr oedd y neuadd yn llawn a phawb wedi mwynhau noson o adloniant gwych.

    20s6343
    Yn y llun gwelir Verian Williams (Cad), Ithel Parri-Roberts (Is-Gad), Heather Jenkins (Cyfeilydd), Anthony Thomas, Dafydd Williams (Llywydd y Noson), Ceirios Jenner (Arweinydd Corlan), Ron