Skip to content

Chwefror 2007

    Cynhaliwyd ein cinio blynyddol yng Nghaffi Beca a chael gwledd, fel arfer, gan Robert a’i staff. Y gŵr gwâdd oedd Y Bon. Colin Phillips -Ymgymherwr Angladdau wrth ei alwedigaeth a bu’n sôn am ei yrfa. Un gair sydd i ddisgrifio’r araith, sef ‘Anfarwol’. Cyhoeddwyd y fendith gan Huw Griffiths. Diolchwyd i Colin gan y Cadeirydd, Robert James a bu Laurie Bowen yn rhoi gwerthfawrogiad i Robert am ei waith. Cafwyd noson hwylus a braf oedd cael cwmni’r gwragedd hefyd!