Anrhydeddu Roy a Rhoswen Llewellyn

    Cynhaliwyd noson arbennig iawn yng Nghanolfan Gymdeithasol Ffynnonwen, Login ar nos Iau, Mehefin 30ain wrth i Gymdeithas yr Hoelion Wyth anrhydeddu Roy a Rhoswen Llewellyn am roi oes o wasaneth i gymuned eang. Daeth cynulleidfa fawr ynghyd i ddweud diolch, dangos eu gwerthfawrogiad ac i dalu parch i ddau berson arbennig iawn, dau o gymwynaswyr mawr y broydd hyn. Braf oedd cael cwmni teulu Roy a Rhoswen yn ogystal a cynrychiolaeth dda o Gymdeithas yr Hoelion Wyth, Capel Ramoth Cwmfelin Mynach, Cynghorau Cymuned Cilmaenllwyd, Llanboidy a Llanwinio, Papur Bro y Cardi Bach, Mudiad Meithrin, Merched y Wawr a Pwyllgor Canolfan Gymdeithasol Ffynnonwen – i enwi dim ond rhai o’r mudiadau a’r cymdeithasau mae Roy a Rhoswen wedi bod yn ymwneud a nhw dros y degawdau diwethaf.

    Mae Cymdeithas yr Hoelion Wyth wedi bod yn anrhydeddu unigolyn yn flynyddol ers sal blwyddyn bellach, ond dyma’r tro cyntaf i ni anrhydeddu dau gyda’u gilydd. Os buodd rhywun erioed yn haeddu’r fath anrhydedd, wel Roy a Rhoswen yw rheiny! Mae eu gweithgarwch a’u cyfraniad i’r broydd hyn wedi bod, ac yn dal i fod, yn ddiarhebol ac yn hollol rhyfeddol – a mawr yw ein dyled a’n diolch iddynt.

    Bu’n fraint ac yn bleser pur i minnau, nid yn unig yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth, ond hefyd ar lefel bersonol, i drefnu’r noson ar ran y gymdeithas ac i ddadorchuddio’r plac. Ma Roy a Rhoswen wedi cael dylanwad mawr arnaf I, ac ar fywydau cymaint ohonom, dros gyfnod maith. Yn Ffynnonwen dechreuodd fy nghysylltiad gyda’r ddau, dros hanner canrif nol bellach, cysylltiad wnaeth droi yn gyfeillgarwch agos, sydd wedi para byth ers hynny.

    Talwyd teyrngede cynnes a clodwiw i Roy a Rhoswen, gennyf i, Aled Gwyn, Euros Jones Evans, Beti a Sian a Carol Ayers, diolch iddynt am hynny. Bu cwmni teledu Tinopolis yn ffilmio’r achlysur a talwyd teyrnged diffuant hefyd gan Wyn Evans, ar ran, ac yng Nghapel Ramoth, mlan llaw.  Diolch o galon i Bwyllgor Canolfan Gymdeithasol Ffynnonwen am y cydweithio agos ac hapus fu rhyngom ynglyn a’r trefniade; i Wyn Owens am lunio’r englyn gwych sydd wedi ei gynnwys ar y plac;  i Gyngor Cymuned Cilmaenllwyd am ei ariannu; i Clive Edwards am ei rodd yntau; i William a Sian Evans am ganiatau i ni barcio ceir yn y cae gyferbyn a’r Ganolfan ac i’r gynulleidfa am eu presenoldeb. Diolchodd Roy yn gynnes iawn gan bwysleisio taw dyma’r anrhydedd fwyaf mae e a Rhoswen wedi ei dderbyn erioed. Cafwyd cyfle i gymdeithasu ymhellach tu fewn y Ganolfan, drwy fwynhau lluniaeth wedi ei baratoi gan bwyllgor y Ganolfan a diolchodd Roy yn gynnes iawn i bawb fu’n paratoi’r arlwy.

    Arwyr oes – Roy a Rhoswen!

    I gyfarch Roy a Rhoswen

    Roy a Rhoswen; llawenydd yw i ni

    Yn awr ganu’ch clodydd.

    Dau ffyddlon, dewrion eich dydd

    Yn tywys ym mhob tywydd.

    Aled Gwyn

                                          Y DDEUDDYN YN Y WAL 

                               I Roy a Rhoswen Llewellyn ar achlysur  gosod

                               plac ar wal Canolfan Gymdeithasol Ffynnonwen

                               nos Iau 30 Mehefin 2022, i ddynodi eu cyfraniad

                                mawr i gymdeithas yr ardal 

    Mae  lleisiau hen blentyndod   yn haenau’r muriau hyn;
    cyneuant ynom heno   gan roi ein cof ar gynn;
    ein Alma Mater ydyw,  
    fe  gofiwn hynny‘n awr nyni a gafodd addysg
        y ddeurŵm bach a mawr. 

    Ac fel  gwenoliaid buain    a wibiai ‘n ôl a mlaeni
    wneud flynyddol nythod   
    dan fargod gyda graen,
    fe ddartia’r dyddiau hynny   ar hynt 
    i daro’r nodgan dreiddio â’u buander  hyd ddyfnder eitha’n bod. 

    Bu’r waliau yn arddangos    campweithiau bysedd bach;
    pob llun a cherdd ac ysgrif  yn dangos doniau iach
    . balchder rhedem  adre   – fe’n gwnâi yn fwy na thal -wrth floeddio yn ddiniwed 
     ‘Fy llun sy i ar y wal.’ 

    Ond heno ar wal ‘rysgol  rhown rywbeth bery byth;
    rhown stamp anrhydedd ardal 
    i  ddeuddyn yn ein plith.
    Amlyga  Roy a Rhoswen  rinweddau a phob moes;
    mae’u henwau yn dynodi  partneriaeth gydol oes.  

    Gwir gymwynaswyr ffyddlon   dros bopeth fuont hwy;
    o Login i Gwmfelin  gyflawnodd rhywrai fwy?
    Dros iaith, a’n byw ddiwylliant,  dros les a hawliau’r dydd, 
     dros hawliau cymdeithasol,  a phopeth  gorau’r Ffydd. 

    Bu Roy yn grwtyn yma – yr ail yn nheulu’r Rhiw
    -dilynodd lle bu’i dadau    ar feidyr dysgu byw;
    diau y plannwyd ynddo  wir werthoedd yn ddi-ffaela’i gwnaeth 
    ymhen yr amser yn gymwynasawr hael. 

    I’r Blaid a’i holl ymdrechion;    i’r Cyngor yn sir Gâr;
    i gymdeithasau ‘lusen  fe wnaeth yn  fwy na’i siâr.
    Digrifwr a storïwr,   diddanwr yn llawn bri,
    a hwyl y Noson Lawen   a lywiai gyda sbri. 

    Fe lywiodd weithgareddau’r   ganolfan  gyda sêl;
    mae ddiflin waith arloesol   yma i’r neb a’i gwêl
    .A phwy a all anghofio    y cyfeillgarwch triwa roes mor gyfareddol
      i ’r anghymarol Huw? 

    I Ffynnon-wen daeth Rhoswen   yn ifanc yn ei rhawd;   
     athrawes gyda’r gore     
    mewn cyfnod digon tlawd.
    A phan  ddyrchafwyd hithau  yn bennaeth – dyna rôl !chwyldrowyd addysg gynradd, 
    daeth angerdd yma‘n ôl.     

    Brwdfrydedd ymgorfforai   fel bwrlwm gloyw’r nant,
    a gwres ei phersonoliaeth   a ddenai serch y plant.
    Does ryfedd fod y plantos    fu yma gyda hiyn dal i sôn amdani: 
     ein Rhoswen, Rhoswen ni. 

    Deallus ac amryddawn;   mae’n sgolor ymhob dawn
    o gyfansoddi cerddi  a  ‘sgrifau celfydd iawn.
    Fe droes y reddf i sgwennu’n   gaffaeliad yn  llawn fflachwrth
    hel a nôl newyddion  ar gledrau’r Cardi Bach. 

    Do gyrrodd am flynydde   y trên cymdogol braftrwy ledu ei orwelion
      tu hwnt i ddyffryn Tafgan roi ar gof a chadw  
    hanesion  llawn apêli’r werin hoff gymdogol; 
     a’r werin ‘r oes a ddêl. 
    Ca’dd urddwisg wen yr orsedd    am wasanaethau mawr;
    fe’i gwnaed hi’n llywydd parchus  mudiad Merched y Wawr.
    Am oes o waith  yn Ramoth  a’r Ysgol Sul lle bu,
    yn iawn dyfarnwyd iddi   holl fraint  y Fedal Gee. 

    I’r Hoelion Wyth mae’r diolch   
    am weledigaeth dda,
    a’u gweithred mor ddigymar  ar noson hon o ha
    ’trwy roi ar wal yr ysgol  un plac a bery byth:rhoi stamp anrhydedd ardal
      i  ddeuddyn yn ein plith. 


    Euros Jones Evans