Skip to content

Adroddiadau

    ADRODDIADAU

    HOELION 8 CORS CARON

    —————————————

    ADRODDIAD AM FISOEDD CHWEFROR,MEHEFIN A GORFFENNAF

    ————————————————————————————————-

    Ers i ni anfon yr adroddiad diwethaf am weithgareddau’r gangen nol ym mis Ionawr,daeth newidiadau mawr ar ein traws ni i gyd yn sgil y pandeming byd eang.Effeithiodd y lladdwr anweledig ar ein bywydau mewn nifer o ffyrdd,ond o weld y dioddefwyr a gwaith anhygoel y gwasanaeth iechyd dros y misoedd diwethaf,mor ffodus ydym wedi bod o gael byw yn y rhan yma o Gymru lle bu’r colledion yn y lleiafrif,ac wrth gwrs mae ein meddyliau gyda theuluoedd y miloedd ar filoedd sydd wedi colli anwyliaid.

    Fel yr ydych wedi sylwi eisoes uchod mae’n siwr,gohiriwyd cyfarfodydd Mawrth,Ebrill a Mai (Mawrth-paratoi at yr Eisteddfod,Ebrill-yr Eisteddfod ei hun,Mai-y wibdaith ddirgel flynyddol) gan ein bod i gyd dan glo.Roedd TAIR eisteddfod wedi eu clustnodi ar gyfer Tregaron eleni- Eisteddfod Gadeiriol Tregaron ym Medi,Eisteddfod fach arall am wythnos ddechrau Awst ac wrth gwrs yr eisteddfod FAWR ei hun sef un Genedlaethol gadeiriol,goronog yr Hoelion 8 ddechrau Ebrill.Yn anochel,gohiriwyd y cyfan.

    Croesawyd Mr.Trefor Evans i’n plith yng nghyfarfod Chwefror.Mae nifer ohonom yn ei adnabod fel trefnwr angladdau,ond amlinellodd hanes ei fywyd a’i wreiddiau mewn dull hamddenol a diddorol,gyda nifer o gysylltiadau yn ein hardal ni.Noson arall hwylus a chofiadwy yng nghwmni cymeriad o gefn gwlad.

    Yn dilyn 3 mis segur,a’r flwyddyn yn ddiflas ddod i’w therfyn,penderfynodd ein hysgrifennydd goleuedig,Mr.Geraint Morgan ymchwilio i bosibiliadau’r cyfryngau cymdeithasol,a thrwy ryfedd wyrth technoleg fodern,cynhaliwyd cyfarfod Mehefin ar ZOOM gyda dwsin ohonom yn mwynhau cwis wedi ei drefnu gan Geraint.

    Gymaint oedd y mwynhad ,gyda phawb yn cael gwydriaid o ‘ddiod ysgafn’ !! yn union fel petasem nol yn y Talbot,fel y penderfynwyd cynnal cyfarfod ychwanegol yng Nghorffennaf-cwis arall oedd ar yr agenda gyda’r cadeirydd,John Jones,yn gyfrifol y tro yma.

    Awr a hanner a gwydriad neu ddau’n ddiweddarach,pawb yn unfrydol parhau’n rhithiol am y tro,a chynnal trydydd cyfarfod yn Awst-y tro yma pob un i ddod a stori neu joc at y bwrdd (neu’n hytrach y sgrin!!)

    Weithiau mae argyfwng yn medru gwneud i ddynolryw ymateb mewn ffyrdd adeiladol a gwahanol,ac yn sicr mae cyfarfodydd rhithiol aelodau Cors Caron wedi llwyddo i godi calonnau nifer o’r aelodau’n ystod yr hirlwm diflas yma.