Skip to content

Adroddiad yr Eisteddfod 2017

    Yr Hoelion ar y brig unwaith eto
    Enillodd Cangen Cors Caron dlws Eisteddfod Ffug Genedlaethol Cymdeithas yr Hoelion Wyth am y trydydd gwaith, yn ogystal â gwobr am y marciau uchaf yng nghystadlaethau llwyfan. Cynhaliwyd yr eisteddfod eleni yng Ngwesty’r Talbot Tregaron. Daeth pum cangen ynghyd i gystadlu amrywiol yng nghwmni’r beirniaid Euros Lewis ag Arwel Rocet Jones. Cafwyd basned o gawl blasus i ddechrau’r eisteddfod ac arweiniwyd y noson gan Dai Jones Llanilar.

     

    Llongyfarchiadau mawr iawn i Iwan Thomas  (Iwan Tyglyn), Cangen Banc Sion Cwilt am ennill y Gadair a’r Goron  yn Eisteddfof 2017. Dyma’r tro cyntaf i’r un cystadleuydd ennill y ddwy wobr.

    Dyma’r darnau buddugol;

     

    (Y) Wal

    Gwelwyd hysbys yn ‘Y Bildar’, am dendr codi wal – dros gant a hanner milltir, dim rhy denau, weddol dal.
    Roedd e Farage a’i debyg moyn atgyfnerthu’r ffin,
    Er mwyn cael cadw Lloegr yn hollol bur i’r Cwîn.
    ‘We need a stronger fence’ medd ef, ‘to keep those Welshies in their place’,
    Roedd Clawdd Offa yn ôl Nigel, yn ddiawledig…yn ‘disgrace’.

    Danfonwyd amlen fawr first class a’r tendr yn ei le
    Can miliwn (amcangyfrif), i gael wal oedd digon gre’.
    A rhaid bod e ‘di cyrraedd, a’r cynnig o fewn cost,
    Cans o fewn fawr o amser, daeth Cytundeb yn y post.
    Ac ar sail hirwyntog lythyr o ryw swyddfa’n Llunden draw
    Aethpwyd lan i’r Cop yn Felinfach, er mwyn prynu coes i’r rhaw.

    Ail-agorwyd cwar yr Hendre (o dan ofalaeth Dic)
    A chware teg i fois Ffair Rhos roedd y blocs yn dod reit slic.
    Tair lori bob yn ddwy awr, criw Mansel wrth y lliw,
    A pob gyrrwr yn oddefgar waeth bynnag hyd y ciw.

    Daeth sment lawr o Benymynydd, a’r holl ffordd o Aberthaw,
    Yn cyrraedd fel lluwch eira’n canol hindda, gwynt a glaw.
    ‘Mofyn cerrig o’r Preseli, cerrig mawr, yn las a’n hir, (er bod y cerrig gore’n dod o Fôn a dweud y gwir!).

    Cafwyd swnd o draeth Lanbedrog, y gorau sydd i gael Fel bod llai o le i Scowsers fynd i orwedd yn yr haul.

    Ac ar ôl trefnu deunydd, roedd ishe llafur gloi

    Cans odd e’n ormod o hen job, i ddim ond jyst un boi. Daeth na gangiau draw o bobman, pob un gornel fach o’r wlad
    A Hoelion Wyth Cors Caron yn arwain blaen y gad.

    Lyn Eb oedd wrth y micsar, yn cymysgu yr holl stwff,
    A Sel yn rhofio yn ei hyd, nes bod e mas o bwff.

    Yn torri seiliau newydd, roedd Jac yn codi baw,
    A’n tacluso ar ei ôl e yr oedd Wil a’i gaib a’i raw.
    Dafydd Iwan oedd y fforman , yn trefnu pawb ynghyd (Dweud y gwir petai chi’n checio, mai’n siŵr ei fod e na o hyd).
    Pontsian a’i whilber lawn o frics, yn clecio’i beint ru’n bryd!
    Dai Jones a Hogiau Llandegai yn walo blocs ‘full-sbîd’.
    Y digywilydd Gerallt yn plastro’r wal ar frys,
    A Waldo’n torchi llewys, gan dorri cot o chwys.
    Ray Gravell a Carwyn yn gweithio ‘dybl-shiffts’
    A gweler Gwynfor yno, yn hollol ‘chuffed to bits’!
    Ac Emyr yn rhoi stop-coc i droi dŵr Tryweryn bant,
    A throi hwnnw nawr i’n rhod ni’n hun, ar gyfer budd ein plant.

    Nawr sgenai’m llawer iawn i ddweud wrth Donald Trymp ai griw, Yn y bôn maen ddigon amlwg bod gan bawb yr hawl i fyw. Ond mae gennym ninnau’r hawl siŵr iawn i siarad iaith ein tad
    I arddel ac amddiffyn traddodiadau gore’n gwlad.
    Croesawaf bob mewnfudwr, beth bynnag yw ei liw
    Ar yr amod ei fod yntau’n fodlon parchu’n ffordd o fyw.

    Heddychwr ydwyf yn y bôn, a smo fi’n licio trais…
    Er o ryw bryd i’w gilydd gallwn ‘sbaddu ambell Sais!
    Ond cofiwch, rhaid cyfaddef, petawn i’n dweud y gwir,
    ‘Sen i’n fodlon gweld sawl cymro ‘fyd, yn byw tu draw i’r mur!

    Chi gwyddoch ddiwedd pob un can – rhaid trefnu’r setlo’r ddyled.
    A chrafu pob un geiniog goch i dalu am y faled…
    Ac wedi gorffen codi’r wal, pan ddaeth y job i ben,
    Fe aeth y bil i’r post, first class, mewn amlen barchus wen.
    ‘Dear Sir’, medd fi, mewn Saesneg, cans Sais ydoedd y boi,
    ‘Enclosd our bil for building wal, which we finished feri gloi. The infois is for nothing, as the pobol here you see, are so feri glad of this new wal, that we’ve done the work for free.’

    O Brestatyn yn y Gogledd reit lawr i Fynwy pell, Codwyd ‘riod ru’n wal oedd cystal, ac yn sicr dim un gwell.
    Ond wal o ryfedd freuddwyd yw wal fy Nghymru fydd….
    Ond gwn, fel gwyddai Dafydd… O daw, fe ddaw y dydd!

    iwan tyglyn

     

     

    Cerdd Coffa
    Cwarter wedi naw

    Un pip fach sydyn trwy gul y drws byth-ar-gau, – fel bod golau’r landin yno’n gysur iddi yn nhywyllwch ei nos. Yno ar y carped newydd-jyst-a-throelio – ei gwely; fframyn derw disymud a’i sbrings dur wedi rhydu’n goch .
    Ar y gwely, carthen gymen a gwn-nos ddigwsg gwyn.
    Un golwg eto o gwmpas yr ystafell-popeth-yn-ei-le, pob blewyn yn ei le, a chudyn cyrliog o’i gwallt euraidd wedi plethu’n llwyd nawr yn y crib ar bwys y drych. Yn ffado, wedi ffado, fel y blodau bu gynt yn binc ar y papur wal uwch y gwely, fel pen-draw’r blodau bob-lliw di-ben-draw lan yn y fynwent.
    Un edrychiad sydyn o gwmpas yr ystafell pin-mewn-papur, popeth yn ei le-a lle i bopeth,
    pob dim fel yr oedd hi ar y diwrnod hwnnw.
    Yn ymyl y gwely, ces frown wedi’i bacio, yn disgwyl o hyd am ei gwyliau.
    Ar fachyn y drws cot las na wisgodd hi erioed tu fas i’r siop. Cot hanner canrif, fel newydd…roedd hi wrth ei bodd a’r got.
    Un cipolwg gloi cyn troi at waith y dydd.
    Yno yn y cornel y doli del, mor brydferth. Mor ddiymadferth ….
    ….fel ei chorff hithau’n gorwedd yn sedd fawr Bethania. Y bochau coch wedi colli’i lliw.
    Syllu’n hir trwy’r drych ar y bwrdd. A llyged hen wraig yn syllu nôl. Mam ifanc yn hen wraig dros nos.
    Y noson ddidrugaredd-ddiddiwedd honno daeth yng nghysgod y diwrnod du-fel-y-glo. Pan aeth y plant i’r ysgol.

    iwan tyglyn