Skip to content

Adroddiad yr Eisteddfod 2015

    Eisteddfod Blynyddol yr Hoelion Wyth
    Cynhaliwyd Eisteddfod blynyddol yr Hoelion Wyth yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Mawrth 6ed. Arweinydd y noson oedd Huw James, Llanwinio a’r ddau feirniad oedd Mari Grug, Llangynnwr a Rhodri John, Efailwen. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y nos a cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan i gangen Sion Cwilt a cyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf i gangen Beca. Enillwyd y gadair am ysgrifennu cerdd ddigri ar y testun “Twll” gan Eurfyl Lewis, Beca a’r goron am ysgrifennu telyneg ar y testun “Niwl” gan Lyn Ebeneser, Cors Caron – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Cyflwynwyd Tlws cangen Aberporth am y perfformiad gorau ar y llwyfan i gor Cors Caron. Cafwyd noson hyfryd yng nghwmni’n gilydd a diolchodd Nigel Vaughan, cadeirydd Beca i Mari a Rhodri am feirniadu, i Huw am arwain y noson yn ei ffordd unigryw, i Robert James am ddarparu cawl blasus ac am ganiatau i ni gynnal yr Eisteddfod yng Nghaffi Beca, i Peter ac Alun am mofyn y llwyfan o Ysgol Beca ac i Ysgol Beca am ei fenthyg, i bawb wnaeth gyfrannu gwobrau raffl, i Eurfyl am drefnu’r noson ac i aelodau’r canghennau am eu cefnogaeth.
    Roedd John Davies, Aberporth ( un o sylfaenwyr yr Hoelion Wyth ) yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed ar ddiwrnod yr Eisteddfod a talodd Eurfyl deyrnged iddo ar ffurf pennillion cyn i bawb ymuno fel un cor i ganu penblwydd hapus iddo.
    Dyma restr y canlyniadau:-

    Dweud Joc
    1. Hywel Lloyd, Sion Cwilt
    2. Charles Arch, Cors Caron
    3. Hywel Llewellyn, Beca
    Can Ddigri
    1. Tudur ac Eurfyl Lewis, Beca
    2. Criw Sion Cwilt
    3. Lyn Ebeneser, Cors Caron

    Sgetsh
    1. Sion Cwilt
    2. Hendy Gwyn
    3. Beca

    Cor
    1. Cors Caron
    2. Sion Cwilt
    3. Beca

    Brawddeg ar y gair “Patagonia”
    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. Blewgi?
    3. Eurfyl Lewis, Beca

    Brysneges ar y lythyren “B”
    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. Eurfyl Lewis, Beca
    3. Eurfyl Lewis, Beca

    Limrig yn cynnwys y llinell “ Am hyn rwy’n breuddwydio’n feunyddiol”.
    1. Calfin Griffiths, Sion Cwilt
    2. Nigel Vaughan, Beca
    3. Charles Arch, Cors Caron

    Telyneg ar y testun “Niwl”
    1. Lyn Ebeneser, Cors Caron
    2. Glyn Parry, Sion Cwilt
    3. Emyr Wyn Thomas, Beca

    Cerdd ddigri ar y testun “Twll”.
    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. Calfin Griffiths, Sion Cwilt
    3. Lyn Ebeneser, Cors Caron

    Huw James, arweinydd yr Eisteddfod yng nghwmni’r beirnied sef Mari Grug a Rhodri John.

    Mari Rhodri a Huw

    Lyn Ebeneser yn cael ei longyfarch gan yr Archdderwydd Elfed Howells ac aelode’r Orsedd ar ennill y goron am gyfansoddi telyneg ar y testun “Niwl”.

    Lyn Eb

    Eurfyl yn cael ei longyfarch gan yr Archderwydd Elfed Howells ac aelode’r Orsedd sef Henry Morris, Ken Thomas a Huw Griffiths ar gyfansoddi cerdd ddigri ar y testun “Twll”.

    Llongyfarchiade i gangen Beca hefyd ar ennill y tlws am y gangen a fwyaf o farcie yn yr Eisteddfod.

    Eurfyl

    Calvin a Jerry

    Calvin a Jerry