Skip to content

Adroddiad Tachwedd 2016

    Cyflwynwyd y siaradwr gwadd sef John Watkin, Ffair Rhos gan y Cadeirydd. Magwyd ef yn Coynant a dechreuodd ei addysg yn ysgol gynradd Pantycaws yn gyd-ddysgybl i sawl un o’n haelodau ni.  Yn anffodus collodd John ei dad pan yn ifanc iawn a symudodd y teulu i Lanrhystud. Cafodd weddill ei addysg cynradd yno cyn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Aberystwyth a Choleg y Drindod, Caerfyrddin.

    Bu John yn adrodd ychydig o’i hanes i ni. Un o’i atgofion cyntaf oedd clywed sŵn y Cardi Bach lawr yn y dyffryn islaw ei gartref wrth i’r trên deithio o Login tuag at Langlydwen ac roedd yn cofio hefyd cyd-gerdded gyda Brynmor Penrallt i ysgol Pantycaws lle’r oedd yr athrawes Miss Morris yn disgwyl amdanynt. Tra yn ysgol Uwchradd Aberystwyth cafodd ei brofiad cyntaf o’r Urdd a bu’ n cymryd rhan mewn sawl gweithgaredd. Aeth ymlaen i brifysgol a dod o dan ddylanwad yr enwog Norah Isaac.

    Dysgu oedd y bwriad gwrieddiol ond ar ôl graddio cafodd swydd fel is-gynyrchydd gyda’r BBC yn Llundain yn gweithio ar y rhaglen Blue Peter. Yn 1975 cafodd y cyfle i ymuno a staff yr gorsaf radio’r BBC yn Mrunei, de ddwyrain Asia gyda’r dasg i ddatblygu sianel deledu i’r wlad. Bu’n dasg ddiddorol ac roedd holl bwyllgor rheoli’r BBC yno yn Fwslemiaid. Un o’r rhaglenni teledu cyntaf i’w ddarlledu yno oedd fersiwn o Siôn a Siân yn yr iaith Mali. Roedd hyn yn creu ambell broblem gan fod mwy nag un  gwraig gyda llawer iawn o’r dynion yno! Cofiodd am un aelod o staff a oedd eisiau amser i ffwrdd i briodi dwy wraig yr un pryd! Treuliodd bedair blwyddyn yn Mrunei cyn dychwelyd i’r BBC yng Nghaerdydd ac yno bu’n helpu i sefydlu’r gystadleuaeth Cardiff Singer of the World.

    Yn ystod y cyfnod yma roedd Dr Alfred Gooding sef Cadeirydd y CBI (Confederation of British Industry) Cymru yn chwilio am bobol i fynd allan i Tsiena i ddatblygu perthynas gwell gyda’r bobol ar gyfer moderneiddio eu technoleg. John oedd un o’r rhai aeth yno i weithio a bu yno am dair blynedd.

    Daeth yn ôl i weithio gyda’r BBC yng Nghaerdydd i’r adran cynyrchiadau arbennig oedd dan adain Mrs Teleri Bevan. Bu’n cynhyrchu rhaglenni am ferched mewn swyddi aruchel a chafodd y profiad o fynd i wneud gwaith ymchwil i’r India gan astudio’r ffordd o fyw ac yn arbennig y Prif Weinidog Mrs Indira Ghandi. Roedd Mrs Ghandi yn ferch i‘r prif weinidog cyntaf India sef Jawaharlal Nehru âi dymuniad oedd moderneiddio ffermio yn y wlad a cheisio uno’r sectau o wahanol grefydd. Un peth a wnaeth syfrdannu John pan aeth allan gyntaf oedd pa mor hen ffasiwn oedd y ffermio.  Roedd pethau’n fwy hen ffasiwn nag oedd fferm y Coynant pan oedd yn blentyn bach. Cafodd John y cyfle i siarad â’r Prif Weinidog ar sawl achlysur a gofynnwyd iddi pam oedd am geisio cael ei hethol am y pedwarydd tro.  Ei hateb oedd y bod ganddi freuddwyd gael trydan i bob pentref fel bod y bobol yn gallu pwmpio dŵr i’w cartrefi a bod pob ffermwr yn cael teiars rwbwr i’w trelars a’r cerbydau. Ffilmiwyd y cyfweliad a dychwelodd John i Gymru wedi cael profiadau mawr yn India.

    Daeth yn amser golygu’r ffilm ac aeth John âi gydweithiwr ati i orffen y gwaith yma un noswaith gan benderfynu y bod rhaid ei orffen cyn gadael y stiwdio yn Llandaf. Aeth y gwaith ymlaen tan oriau man y bore 31 Hydref 1984 ac wrth iddo adael yr adeilad dyma un o’r dynion diogelwch yr adeilad yn torri’r newyddion iddo fod Indira Ghandi wedi ei llofruddio gan ei gwarchodwyr. Dynion o grefydd y Sikh oeddent ac roeddent  yn ddug iddi am ei bod yn gynharach yn y flwyddyn wedi danfon milwyr i ymladd y gwrthryfelwyr Sikhiaid yn y Deml Aur Sanctaidd yn Amristar.

    Fe waneth pawb fwynhau cyflwyniad John a diolchwyd iddo gan Tudur, Roy a Huw.  Diolchwyd hefyd i Janice a Paul am ddarparu’r cawl ar ein cyfer.