Skip to content

Adroddiad Tachwedd 2015

    Ein siaradwr gwadd am Dachwedd oedd Emyr Llywelyn o Ffostrasol. Croesawyd ef yn gynnes gan y Cadeirydd.
    Testun ei gyflwyniad oedd cymeriadau o ardal Ffostrasol ac ardal De Ceredigion. Dechreuodd drwy sôn am Doctor Tom o Landysul, dyn â’r ddawn i wella pobol cyn bo nhw’n sâl a stori’r sgerbwd a’r ddau dwll dîn! Aeth ymlaen i gyflwyno rhai o storïau’r diweddar Eirwyn Pontsîan, tipyn o gymeriad os bu un erioed.
    Soniodd am ei gyfnod yn byw ochr draw’r dafarn yn Ffostrasol ac am yr holl fysiau bydde’n stopio tu fas i’r tŷ i ollwng bois pêl-droed neu rygbi allan. Roedd tuedd i’r bechgyn gael pishad tu fas i gartref Emyr cyn croesi i’r dafarn ac o ganlyniad mynnodd Emyr eu bod yn symud am fod ei wraig yn treulio gormod o amser yn y ffenest!
    Roedd bechgyn ifanc ardal Ffostrasol yn gallu bod yn dipyn o heclyrs ar ddiwedd y nos yng nghefn y neuadd yn ystod Eisteddfodau ac mae un stori amdanynt yn heclo rhiw feirniad dieithr a hwnnw’n gweddi, “Byddwch dawel, ry’chi fel lloi yn y cefn na!” a dyma un wag yn ateb, “Fel na ma’ lloi amser ‘ma llo newydd yn eu plith!”
    Stori arall oedd ganddo am fois Ffostrasol oedd pan aethant i Ddulyn i weld rygbi ac ar ôl cyrraedd y ddinas yn gynnar – tua wyth y bore cyn i’r tafarnau agor, dyma un ohonynt yn penderfynu cnocio ar ddrws y dafarn i ofyn pryd fyddent yn agor. Ateb y Gwyddel oedd, “We open at eleven but you can have a drink while your waiting.” Yn hwyrach yn y dydd dyma’r un dyn yn gofyn, “When does the bar close?” A dyma ateb y tafarnwr, “Sometime in November!”
    Roedd ambell fenyw galed yn ardal Ffostrasol hefyd ac adroddodd stori am un o fois y cownsil yn cael ei ladd pan aeth rowler stêm drosto. Rhaid oedd egluro i’w wraig am y ddamwain ac aeth rai o’r bois lan i’r tŷ yn gynnar cyn ei bod wedi codi i ddweud am y ddamwain. Buont yn cnocio ar ddrws y ffrynt a daeth y wraig at ffenest y llofft. “Mae damwain wedi bod ac mae eich gŵr wedi ei flatto gan y rowler stêm. Ei hymateb oedd, “Pwshwch e mewn o dan y drws de plîs!”
    Cafodd Emyr y profiad o ddysgu’r deryn Hywel (gas) Lloyd ac adroddodd ambell stori wir am ei brofiadau. Cofiodd hefyd am arolygwr yn dod i siarad ag e chwap wedi cyhoeddi’r Cwricwlwm Addysg ac yn gofyn am weld ei gynlluniau gwersi ond roedd cynlluniau Emyr i gyd yn ei ben ac nid ar bapur. Gofynnodd iddo sut oedd am fwrw’r targedau, felly. Ymateb Emyr oedd gofyn iddo faint o dargedau sydd de? Esboniodd yr arolygwr bod tua cant i gyd. “Mae siawns da fi fwrw un o nhw de!” oedd ymateb ffraeth Emyr.
    Cyn gorffen fe wnaeth Emyr sôn am benillion digri pobol ardal Dyffryn Aeron ac am rhywfaint o hanes Idwal Jones un o ffrindiau gorau Waldo Williams. ‘Roedd Idwal yn fab i ddyn y glo o Llambed ac un o’r storïau adroddau oedd yr un pan ddaeth hen snoben o fenyw i ofyn i’w dad “Pryd gaf i lo?” ymateb sydyn ei dad ydoedd, “Mae’n dibynnu ar pryd gawsoch chi’r tarw!”
    Cafwyd noson o hwyl ac adloniant pur yng nghwmni Emyr Llew a diolchwyd iddo yn dwym galon gan Eurfyl Lewis. Diolch hefyd i Rob am baratoi cawl ar ein cyfer.

    Emyr Llew