Skip to content

Adroddiad Mis Tachwedd

    Pleser mawr oedd cael croesawu’r arlunydd o Aberteifi Meirion Jones i’m cyfarfod fis Tachwedd. Daeth Meirion a’i wraig Joanna gydag ef i’w helpu a chyflwynwyd hwy gan Eifion Evans y Cadeirydd.

    Un o Aberteifi ydy Meirion, yn fab i’r diweddar arlunydd led enwog Aneurin Jones. Bu’n fyfyriwr yng ngholeg Arlunio Dyfed cyn symud i raddio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â bod yn arlunydd mae yn fardd ac enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 1990. Bu’n athro am ddeg mlynedd yn Ysgol Uwchradd Bro Gwaun cyn gadael i ganolbwyntio ar arlunio.

    Drwy ddefnyddio taflunydd fe wnaeth ein cyflwyno i lawer o luniau ei dad, ei luniau ei hunan ac ambell lun mae Joanna wedi ei cynhyrchi gan ei bod hithau hefyd yn hoffi arlunio lluniau o gapeli. ‘Roedd ‘na tua thri deg naw esiampl o’i gwaith hithau ar gael i’w gweld hefyd.

    Yn ystod ei gyflwyniad difyr, fe wnaeth nodi pa mor bwysig mae ambell eiliad ddamweiniol wedi bod o fudd iddo yn ei waith. Enghraifft berffaith o hyn oedd digwydd gweld Owain Shwldimwl yn dod a chrysau T Geraint Thomas mewn i siop Awen Teifi.  Daeth y syniad iddo’n syth i gynhyrchu llun yn seiliedig ar lwyddiant Geraint yn y Tour de France sef Geraint Magnifique! Ac arddangoswyd y llun yma yn y Cynulliad adeg croesawu Geraint.

    Dangoswyd sawl llun i ni gyda stori a hanes diddorol ac ambell stori ddigri ynghlwm a phob un. Dwi’n siŵr ein bod ni gyd wedi mwynhau’r noson a diolchwyd i’r ddau gan Eifion. Darparwyd cawl are ein cyfer gan Rob a diolch iddo yntau hefyd am y cawl ac am gael defnydd y caffi.

     

    Ddyma lun o’r ddau gyda’r swyddogion