Skip to content

Adroddiad Medi 2018

    Croesawodd y Cadeirydd, Eifion Evans yr aelodau nôl i  ddechrau tymor newydd ar nos Fercher, Medi 26ain. Ein siaradwr gwadd oedd yr addysgwr, awdur adnoddau addysgiadol ar gyfer y Gymraeg a’r cyn gweinidog, Euros Jones Evans o Gwmllynfell a chyflwynwyd ef gan Eifion. Un o blant y Mans, Login yw Euros ac roedd yn braf ei gael adref atom. Pleser oedd cael cwmni Alan hefyd sef un o ffrindiau gorau Euros pan oeddent yn byw yn Login.

    Testun darlith Euros oedd ‘Fi a Sir Benfro’.  Er nad yw erioed wedi byw yn Sir Benfro mae llawer o gysylltiadau ganddo gyda’r Sir.  Un o Borthgain oedd ei fam a bu’n gweithio gyda’i modryb yn y swyddfa bost Croesgoch. Un penwythnos daeth gweinidog ifanc ar ei feic yr holl ffordd o Dalybont, Ceredigion i bregethu yn yr ardal a dyna pryd y cyfarfu tad a mam Euros.

    Pan yn blentyn yn Login, un o’i atgofion cynnar oedd cael camu dros y ffin a mynd i Arberth at y deintydd i gael tynnu dant. Dyddiau’r ‘laughing gas’ ydoedd a chymharodd y profiad o effaith y nwy fel profiad Pwyll Pendefig Dyfed yn disgyn lawr i  wlad Annwn o’i lys yn Arberth.

    Profiad arall o ymweld â Sir Benfro oedd mynd i’r gemau pêl droed a’r ffair yng Nghrymych a dod adre a physgodyn aur. Ond y ffair fwyaf diddorol oedd ffair y Borffil, Hwlffordd. Roedd Euros a’i dri brawd yn chwaraewyr darts eithaf da a chofiodd am yr achlysur o ennill cwpan a soser ‘Willow Pattern’ mewn cystadleuaeth. Cofiodd hefyd weld y bocswyr profiadol oedd yn barod i herio bechgyn ifanc yr ardal mewn ring focsio yn y ffair. Bu ei atgofion a’r argraffiadau o’r bocswyr ffair Hwlffordd yn llawer o help i Euros pan fi’n helpu ysgrifennu llyfr ‘Siwrne Lawn’ sef straeon a cherddi Gwilym Herber a gyhoeddwyd yn 2006.

    Atgof chwerw oedd ganddo o adael ei gartref yn y wlad yn Login yn ddeg oed a mynd i fyw mewn stryd yn y Ponciau, Wrecsam. Roedd hiraeth mawr arno a chofiodd fynd at yr hewl lle’r oedd traffic y De Orllewin yn teithio i’r Gogledd Ddwyrain i edrych allan am loriau Mansel Davies. Stopiodd un o’r lorïau gyda fe un diwrnod a’r gyrrwr oedd John Bowen, Pencraig. Roedd yn falch iawn o’i weld a chroesawyd ef i gael te gan y teulu.

    Pan yn y Brifysgol yn Abertawe roedd y teulu yn byw yn y Rhyl a ddaeth llythyr iddo wrth Vince, Rhydwen i’w annog i gystadlu am Gadair Eisteddfod Clunderwen 1968. Ac yn wir bu’n llwyddiannus.

    Mae Euros yn frwdfrydig iawn dros yr iaith ac yn awdur sawl llyfr addysgiadol. Mae hefyd yn arloeswr a phan yn dysgu yng Nghwmdâr arbrofodd wrth ddanfon rhai o ddisgyblion oedd ganddo yn ei ddosbarth am gyfnod i ardal Eglwyswrw, er mwyn cael eu trochi yn y Gymraeg. Un o’r rhain oedd cyfarwyddwr Theatr Arad Goch, Jeremy Turner. Mae Euros hefyd yn ymfalchïo mae ef wnaeth ddysgu’r prifardd, Mererid Hopwood gynganeddu pan oedd yn athro arni yn Llanhari.

    Tra yn athro ifanc fe wnaeth waith ymchwil ar y pwnc Noddwyr Beirdd Sir Benfro. Mae llinellau allan o’i waith ymchwil i’w weld ar wal mewn ystafell wely yng ngwesty’r Giltar, Dinbych Pysgod ac ar wal ym Maenordy Llwyngwair.

    Dywedodd bod ei argraffiadau a’i deimladau tuag at Sir Benfro yn debyg iawn i’r rhai Waldo sy’n cael ei nodi yn y gerdd Mewn Dau Gae. Ac yn wir nid oedd y ddau gae sonnir amdanynt yn y gerdd yn bell iawn o gartref Euros yn Login.

    Mae merch Euros a’i gŵr a’r wyres fach yn byw ger Eglwyswrw erbyn hyn ac mae ef a’i wraig yn treulio llawer o amser yn y Sir. Mae ei ferch yn dysgu Cymraeg ail-iaith i blant sy’n ‘newydd ddyfodiaid’ i ardal Abergwaun.  Teimla erbyn hyn bod y cylch yn gyflawn, o adeg plentyndod ei fam yn Sir Benfro slawer dydd i glywed ei wyres fach sydd ag acen y sir yn eglur yn ei siarad.

    Cafwyd noson ddifyr iawn yn ei gwmni a diolchwyd yn ddiffuant iddo gan Eifion a Roy. Fel arfer darparwyd cawl blasus ar ein cyfer a diolch unwaith eto i Rob am ei wasanaeth ac am gael defnydd y caffi ar gyfer ein cyfarfodydd.