Skip to content

Adroddiad Medi 2018 Cangen Cors Caron

    HOELION 8 CANGEN CORS CARON

    Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor Newydd ar yr 28ain o Fedi yng ngwesty’r Talbot ,Tregaron.Daeth un-ar-bymtheg ynghyd,a gyda 6 ymddiheuriad,mae’n argoeli’n addawol I’r Hoelion am y tymor.Croesawyd dau aelod Newydd I’n plith,sef Dafydd Morse a Dafydd Iolo Davies-buasai’n braf gweld rhagor yn ymuno eto.Roedd hi’n hyfryd hefyd gweld nifer o aelodau nad oedd wedi mwynhau’r iechyd gorau ‘n ystod y misoedd diwethaf nol yn ein plith.

    ‘Brethyn cartref’ oedd thema’r noson agoriadol,sef noson gymdeithasol ymhlith yr aelodau.Er mwyn cadw trefn ar y cwmni afiaethus gwahoddwyd y diddanwr adnabyddus I’r genedl gyfan,Ifan Gruffudd I arwain y noson,ac roedd ei bresenoldeb ef a’I ddawn naturiol ynghyd a’I hiwmor iach yn sicrhau llwyddiant o’r funud gyntaf.

    Cafodd yr aelodau gyfle yn eu tro I adrodd stori arswyd,dweud joc/stori am blant neu’r byd amaethyddol,meddygol neu eisteddfodol,rhoi pennawd I gartwn a chwblhau limerig.Roedd y limerig a osodwyd yn amserol tu hwnt gan fod y cyhoeddiad wedi ei gadarnhau bod eisteddfod 2020 yn dod I Dregaron.

    DWY FLYNEDD,A DAW’R GENEDLAETHOL

    A’I SYRCAS I’N BRO AMAETHYDDOL.

    OND BETH MEDDECH CHI

    YW’R GWADDOL GAWN NI

    ………………………………………………………

    NEU

    ROL CONCRIT Y BAE

    NA BRAF FYDD GWELD CAE

    ………………………………………………………………..

    Cafwyd ymron i 30 o atebion gwych,a llwyddodd ifan yn ei ddoethineb I rannu’r wobr gyntaf rhwng pob un!!! Yr un oedd canlyniad pennawd y cartwn hefyd-pawb yn llawn deilyngu’r wobr!

    Parhaodd y jocs a’r straeon am dros awr a hanner yn ddi-dor,cyn gorfod rhoi terfyn ar y noson.Roedd digon o ddeunydd ar ol I gynnal noson arall yn rhwydd.’Melys moes mwy’ oedd yr ymateb ar ddiwedd noson agoriadol gofiadwy,a chais I gynnal noson gyffelyb eto’n y dyfodol.

    Ar ddechrau’r noson roedd Lyn Ebenezer wedi cael ei longyfarch ar gyhoeddi ei ganfed llyfr.Barn y rhai’n bresennol oedd fod ganddo bellach ddigon o ddeunydd I gyhoeddi’r canfed ac un!

    Y mis nesaf byddwn yn croesawu Tegwyn Jones atom a hynny ar Hydref y 26ain.Dalier sylw cynhelir y cyfarfod yng nghlwb rygbi Tregaron.Bydd y cymdeithasu’n cychwyn am 7.00,gan Estyn croeso I’n gwr gwadd am 8.00.Croeso cynnes I aelodau Newydd.