Skip to content

Adroddiad Cangen Beca -Medi 2017

    Pleser gan y Cadeirydd, Eifion Evans oedd croesawu dau siaradwr yn ein cyfarfod cyntaf o’r tymor ar nos Fercher, Medi 27ain sef Aneurin Davies o Fetws Bledrws a’i fab Terwyn Davies o Gaerfyrddin. Mae Terwyn yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio ac fe sy’n cadw trefn ar Tommo yn y prynhawn ar Radio Cymru.

    Magwyd Aneurin ger pentref Trefilan, Ceredigion lle y mynychodd yr ysgol gynradd cyn symud ymlaen i addysg uwchradd yn Aberaeron a Choleg Amaethyddol Gelli Aur.  Bu’n aelod brwd o Ffermwyr Ifanc, Felin-fach a thrwy weithgareddau’r ffermwyr ifanc fe gyfarfu a’i ddiweddar wraig Kitty.  Ar ôl priodi bu’r ddau yn byw a gweithio yn ardal Aberdâr ac Aberpennar ond penderfynodd y ddau symud nôl i Geredigion i ardal Betws Bledrws pan oeddynt yn disgwyl eu plentyn cyntaf.

    Bu’n gweithio am ychydig mewn melin goed cyn ceisio am swydd yn 1979 gyda’r Bwrdd Marchnata Llaeth yn Felin Fach yn yr adran tarw potel.  Mae Aneurin dal i fod yn gweithio yn y busnes.

    Tua 2011 gofynnodd Gwasg Gomer i Aneurin ysgrifennu llyfr oedd yn nodi ei brofiadau yn gweithio fel dyn y tarw potel. Nid oedd profiad ysgrifennu llyfr gyda Aneurin ac felly gofynnodd i’w fab Terwyn gofnodi ac ysgrifennu’r holl hanesion ar bapur. Tair blynedd yn ddiweddarach lansiwyd y gyfrol ‘Bywyd wrth Ben-ôl Buwch’ yn Theatr Felin Fach. Mae’r gwerthiant o’r gyfrol wedi bod yn lwyddiant mawr ac yn ôl yr awdur yn well o lawer na’r disgwyl.

    Yn ystod y cyflwyniad adroddodd Aneurin sawl stori ddigri o’i brofiadau a bu Terwyn yn ein cyfeirio at ambell ddarn o’r llyfr drwy ddarllen ambell stori neu ddarn o benillion.

    Cafwyd noson ddifyr llawn chwerthin yn eu cwmni. Diolchwyd yn ddiffuant iddynt gan Eifion Evans. Fel arfer darparwyd cawl blasus ar ein cyfer a diolch unwaith eto i Rob am ei wasanaeth ac am gael defnydd y caffi ar gyfer ein cyfarfodydd.