Skip to content

Adroddiad Mawrth 2016

    Mawrth 2016.
    Ein siaradwr gwâdd yng nghyfarfod Mis Mawrth oedd Ryland James o Bwlltrap. Croesawyd ef yn gynnes gan Eurfyl Lewis yn absennoldeb y cadeirydd Nigel Vaughan. Mae Ryland yn enedigol o Hendygwyn ac wedi ymddeol ar ôl gyrfa fel Syrfeiwr Meintiau yn gweithio i wahanol gwmniau, er yn dal i wneud ychydig ar ei liwt ei hun.

    Mae Ryland yn adnybyddus iawn yn y maes ralio ceir. Mae wedi ac yn dal i gymeryd rhan fel llywiwr yn rhai o raliau mwyaf Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae hefyd wedi bod yn trefnu raliau ar draws y byd a hynny yn golygu trefnu llwybr y rali o’r dechrau i’r diwedd.

    ‘The Great South American Challenge 2013’ oedd canolbwynt ei gyflwyniad. Rali hen geir a cheir clasurol oedd hon ac ef oedd trefnydd y llwybr lawr drwy wledydd De America yn cynnwys Brasil, Ariannin a Phatagonia. Nid canolbwyntio ar y rali ei hun na’r ceir a wnaeth ond drwy gyfrwng sleidiau fe ddilynodd y llwybr drwy’r gwledydd a dangos y golygfeydd hyfryd a welodd yn ogystal â’r golud a’r tlodi oedd yno. Mae Ryland wedi teithio’r byd yn cynnwys Ewrop, Awstralia, Seland Newydd a’r Amerig yn trefnu llwybrau ac yn cymeryd rhan yn y gamp.

    Cafwyd noson ddiddorol dros ben yng nghwmni Ryland a diolchwyd iddo gan Tudur Lewis. Cafwyd basned o gawl bendigedig yn ôl yr arfer gan Rob i gloi noson hyfryd.

    Ryland James