Skip to content

Adroddiad Ebrill 2016

    Adroddiad Ebrill 2016
    Ein siaradwr gwadd am Ebrill oedd Charles Arch o Bontrhydfendigaid ac fe ddaeth John Watkin gydag ef i helpi fel technegydd y taflunydd a’r iPad. Croesawyd y ddau yn gynnes gan y Cadeirydd. Mae Charles a John yn aelodau o gangen Cors Caron o’r Hoelion Wyth. Mae Charles yn awdur ddwy gyfrol yr un cyntaf yn hunangofiant am ei fywyd cynnar yn byw ger Abaty Ystrad Fflur a theitl y llyfr yn cyfeirio at hynny sef Byw Dan Y Bwa. Mae ei ail lyfr yn sôn o am ei hanesion tra fi yn brif sylwebydd am ddeugain mlynedd yn y Sioe Fawr, Llanelwedd a’r teitl; Tir i’r Tŵr. Mae gan Charles ddiddordeb mawr yn weithgareddau’r ffermwyr ifanc ac yn hoff iawn o dreialon cŵn defaid. Hanes taith aelodau Cors Caron i Batagonia y cafwyd ganddo drwy gyfrwng lluniau a chyflwyniad.

    Roedd Charles wedi bod yn y wladfa deg mlynedd yng nghynt ac yn gyflym iawn fe sylweddolodd bod ‘na ddirywiant wedi bod yn y nifer o bobol oedd i glywed yn siarad y Gymraeg ar strydoedd y trefi. Wedi dweud hynny mae’n newyddion da hefyd gan fo nifer o blant sy’n derbyn addysg gynradd drwy’r Gymraeg wedi cynyddu dros y ddeg mlynedd gyda thrydedd ysgol ddwyieithog Y Wladfa yn cael ei adeiladu yn Trefelin erbyn hyn. Nid yn unig yr iaith Sbaeneg sydd wedi cynyddu ond hefyd llawer o ieithoedd arall fel bo pobol estron wedi symud mewn i’r wladfa. Er y dirywiant yn yr Iaith yr oedd arwyddion dwyieithog dal yn amlwg iawn drwy’r Wladfa ac roedd sawl caffi yno yn gwerthi te.

    Aeth y criw i seremoni’r orsedd cyn yr Eisteddfod a chawsom ei synnu wrth weld chwe chôr Capel yn cystadlu yno. Pleser mawr oedd ymuno yn yr asado yn dilyn yr Eisteddfod. Roedd hefyd yn bleser iddynt weld pa mor dda roedd Capeli yn Wladfa yn cael eu cadw a dangoswyd sawl esiampl o’r rhain ar y sgrin.

    Bu’r criw yn ymweld ag ardal Dyffryn Camwy gan fynd i drefi Rawson, Porth Madryn, Dolafon a Threlew cyn mentro mewn modur gyriant 4 x4 dros Y Paith am y dwyrain. Dangoswyd sawl llun o’r paith a nodwyd pa mor noeth â ddifrwyth ydoedd. Mae’r ffermwyr yn dibynnu llawer ar gamlesi sy’n tynnu dŵr o’r afon Camwy i gadw’r tir yn ffrwythlon. Mae’r Wladfa ddeugain gwaith yn fwy o faint na Chymru ac mae’r rhan fwyaf o’r dirwedd yn ddiffeithwch.
    Aethant ymlaen am y dwyrain i gyfeiriad yr Andes gan ymweld â Chwm Hyfryd a’r trefi Esquel a Threfelin. Cyrhaeddwyd Cwm Hyfryd am y tro cyntaf gan y Cymry yn 1885 yn sgil taith i archwilio’r diriogaeth gyfan. Tywysydd y Rifleros, fel y galwyd y trideg marchog ar y daith, oedd John Daniel Evans. Sefydlwyd tref Trefelin ar safle melin flawd a gafodd ei adeiladu ar lan yr afon Percy gan John Daniel Evans a’i gwmni.

    Cyn gorffen eu cyflwyniad fe wnaeth Charles a John bwysleisio pa mor bwysig yw hi i gefnogi’r ymdrech o gadw’r iaith yn fyw yn Y Wladfa gan awgrymu y dylem fel canghennau gyfrannu tuag at yr achos mewn rhyw fodd yn y dyfodol.

    Diolchwyd am y cyflwyniad diddorol ac addysgiadol gan Eifion a diolch hefyd i Rob am baratoi’r cawl fel arfer.

    Charles a John