Skip to content

ADRODDIAD DIWEDD TYMOR CORS CARON

    Ar ol Blwyddyn anodd arall gyda Covid yn dal i ymyrryd a cholli cyfeillion oedd yn aelodau selog ar y ffordd, llwyddodd y gangen i orffen ei thymor gyda 2 gyfarfod llwyddiannus a thaith ddirgel hyfryd.

    Y Parch.Wyn Thomas oedd gwr gwadd Ebrill, a chafwyd noson arbennig yn ei gwmni yng ngwesty’r Talbot yn son yn bennaf am waith rhagorol Tir Dewi.

    Yna, gan ein bod wedi ein gorfodi i ohirio sawl cyfarfod yn ystod y flwyddyn, penderfynwyd cynnal un ychwanegol ym mis Mai a hynny’n y Clwb Rygbi sydd bellach o dan ofalaeth Arwyn Morgan (brawd Geraint, ein hysgrifennydd a’n trysorydd hynod weithgar)

    Dafydd Morgan oedd y gwr gwadd, a chawsom ein tywys i fyd y ser a’r gofod – noson gofiadwy arall.

    Diolch i Geraint Morgan am drefnu cyfarfod Ebrill ac i Alun Davies (Diffwys) am wneud yr un fath ym mis Mai.

    Yna i gloi’r flwyddyn, aeth y daith ddirgel blynyddol a’r aelodau i Llancaiach Fawr yn Nhrelewis.

    Cawsom ein tywys nol i gyfnod yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg,  gyda’r tywyswyr mewn cymeriad yn son am eu bywyd yng nghyfnod y rhyfel cartref – o fywyd caled y gweision i amodau gwaith eraill a oedd yn eu rheoli.

    Prynhawn diddorol ac addysgiadol tu hwnt, ac yn sicr lle gwerth ymweld ag e.

    Yna ar ol paned yn y ty bwyta, ymlaen ar draws gwlad ar hyd ffordd y Cymoedd cyn ymuno a’r M4 a chyrraedd Y Tanerdy, Caerfyrddin am swper blasus.

    Dychwelwyd i Dregaron ychydig cyn 10 yr hwyr,ac aeth rhai ohonom i’r clwb Rygbi i orffen y noson.

    Roedd pawb yn gytun bod y diwrnod wedi bod yn llwyddiant mawr – hyfryd oedd cael y rhyddid i gymdeithasu eto ar ol cyfnod mor rhwystredig.

    Carem ddiolch i Huw Davies, Llangeitho am ein cludo mor ofalus a diogel drwy’r dydd, ac i gwmni cludiant Dolen Teifi, Llandysul am y trefniadau hwylus i logi y bws mini.

    A dyma flwyddyn a thymor arall y gangen ar ben.

    Mawr edrychwn ymlaen yn eiddgar at y ‘Steddfod pryd bydd y gangen genedlaethol yn cynnal dwy noson o adloniant yn y Clwb Bowlio ar y Nos Sul a’r nos Fercher, a bore Llun ym mhabell y Cymdeithasau pan fydd Beirdd a Llenorion Ffair Rhos yn cael sylw.