Ein siaradwraig wadd am Hydref oedd Mrs Magarette Hughes o Hendy-gwyn ar Daf. Croesawyd hi’n gynnes gan y Cadeirydd.
Testun ei chyflwyniad oedd coed a bu’n trafod coed penodol sydd wedi bod, ac sy’n dal i fod yn bwysig iddi yn ei bywyd. Dechreuodd drwy ddarllen dau ddarn o farddoniaeth – ‘Cwm Berllan’ gan Waldo Williams sy’n sôn am le dychmygol rhwng gallt ac afon, a’r ‘Fedwen’ gan T. Llew Jones sy’n gerdd hyfryd yn disgrifio’r goeden yn y pedwar tymor. Soniodd am y tebygrwydd rhwng diwedd cerdd ‘Cwm Alltcafan’, T. Llew Jones a diwedd cerdd ‘Cwm Berllan’ gan Waldo.
Un goeden sy’n annwyl i Margarette yw coeden fedwen sy’n Nhresaith ac mae’r gerdd gan T. Llew Jones yn disgrifio’i theimladau hi yn llwyr am yr ardal arbennig hon, lle mae hi a’i gŵr Tony yn berchen ar gartref go anarferol sef hen gerbyd trên!
Yr ail goeden yw y goeden dderw yn Aberbanc. Bu’n hel atgofion am ei chyfnod yn yr ysgol gynradd yn Aberbanc lle cafodd ei gwersi i gyd yn Gymraeg ac am yr adegau pan oedd yn mwynhau dringo a chwarae pob math o gemau o gwmpas y goeden. Roedd hôl traed plant ar blisgyn y goeden gan fod cymaint yn ei dringo. Roedd iaith yr ysgol yn uniaith Gymraeg heb law am ambell i wers fach yn ‘English chware teg!’ ond y syndod oedd y bod y chwarae ar yr iard yn aml iawn drwy rigymau Saesneg. Aeth Margarette ac un o’i hwyrion i weld y goeden hon yn ddiweddar a sdim sôn bellach am farciau traed plant ar y dderwen fawr – arwydd o fel mae arferion chwarae plant wedi newid dros y blynyddoedd. Fe soniodd hefyd am y posau byddai ei theulu yn ardal Henllan yn eu adrodd gyda’r nos. Enghraifft arall o bethau sydd wedi mynd ar goll erbyn hyn.
Y drydedd ydi’r gastanwydden ym Mhontgarreg. Mae’r goeden hon yn ei hatgoffa o’r cyfnod bu’n byw yn y pentref a mynychu’r ysgol yno. Roedd y prifathro yn dipyn o fwli ac yn mynnu cael y plant mewn rhes ar gyfer holi cwestiynau iddynt. Fe fyddai’r rhai oedd yn ateb yn gywir yn cael symud i fyny’r rhes ond tuag at waelod y rhes bu Margarette am amser go hir hyd nes iddi arfer a’r ymarferiad anghyffredin hwn. Er hyn, llwyddodd i ennill y ’scholarship’ i gael mynd i Ysgol Ramadeg Llandysul.
Bu’n byw ar lan yr afon Teifi yn Llandysul ac mae’r ffawydden a’r hamoc yn hongian ohoni yn dwyn atgofion melys iddi am ei chyfnod yn yr Ysgol Ramadeg, cyfnod pan ddaeth yn ymwybodol o fechgyn ac un o’r rhain oedd Anthony Hughes! Aeth ymlaen i siarad ychydig am ei hamser yn Brifysgol Cymru, Caerdydd pan oedd yn aros mewn neuadd breswyl i ferched yn unig sef ‘Aberdare Hall’ o dan ofalaeth y warden Miss Howe. Mae’n methu maddau i Miss Howe hyd at heddiw gan ei bod wedi ei stopio i fynd gydag Owain Arwel Hughes ar nos Sul i recordiad o Wasanaeth y Cysegr. Ond mae wedi dod i delerau gyda hyn erbyn hyn achos cafodd y fraint o roi darlith yn yr union neuadd pan yn Lywydd Cenedlaethol ar Ferched Y Wawr.
Diolchwyd iddi gan y Cadeirydd a diolch hefyd i Rob am baratoi cawl ar ein cyfer.