Skip to content

Adroddiad Cangen Beca Medi 2019

    Croesawodd y Cadeirydd, Eifion Evans yr aelodau nôl i  ddechrau tymor newydd ar nos Fercher, Medi 25ain. Ein siaradwr gwadd oedd aelod o gangen Banc Siôn Cwilt sef Calfin Griffiths o Lanfihangel a’r Arth a chyflwynwyd ef gan Eifion.

    Mae Calfin yn cyn weithiwr gan y cwmni dosbarthu trydan, yn hanesydd lleol i’w ardal ac yn awdur ar gyfrol sy’n sôn am Drydanu Dyffryn Teifi.

    Testun ei gyflwyniad oedd trydanu ardal Llandysul a’r datblygiadau a welwyd o’r man cychwyn pan ddefnyddiwyd egni’r afon Teifi i yrru tyrbin i gynhyrchu trydan tan y cyfnod pan ddaeth y grid cenedlaethol i’r gorllewin. Bu’n sôn hefyd am ei holl brofiadau a’r newidiadau a welodd wrth weithio i’r cwmnïau dosbarthu trydan am dros ddeugain mlynedd. Arddangoswyd offer diogelwch a chafodd Eurfyl y cyfle i wisgo a modeli’r harnais a’r crampons.

    Cafwyd noson ddifyr yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Emyr Thomas un a fagwyd yn yr un ardal a Calfin.  Darparwyd cawl blasus ar ein cyfer a diolch unwaith eto i Rob am ei wasanaeth ac am gael defnydd y caffi ar gyfer ein cyfarfodydd.