Skip to content

Adroddiad Beca – Mawrth 2018

    Ein siaradwr gwadd am fis Mawrth oedd Alun Wyn Bevan o Gastell Nedd a chroesawyd ef gan Eifion Evans y Cadeirydd.

    Magwyd ef yn Y Gwter Fawr, neu Brynaman i chi a fi. Mae’n gyn prifathro, dyfarnwr rygbi, sylwebydd, cyflwynwr radio a theledu a hefyd yn awdur ar sawl cyfrol.

    Bu’n siarad am dros awr o amser heb un darn o bapur o’i flaen. Cawsom hanes ei fywyd cynnar ym Mrynaman ac am ei hoffter o wylio’r criced gan ei fod yn byw gerllaw’r cae. Soniodd am lawer profiad dymunol ac ambell un annymunol y cafodd yn ystod ei yrfa yn ei amryw swyddi. Er bod chwaraeon yn agos iawn at ei galon mae hefyd yn hoff iawn o fywyd natur ac yn mwynhau crwydro’r llwybrau adre yng Nghymru ac ar draws y byd.

    Roedd ei gyflwyniad yn hynod ddiddorol a diolchwyd iddo gan Eifion a Gwyndaf. Ar ddiwedd y noson darparwyd cawl are ein cyfer gan Janice a Paul yn absenoldeb Rob.