Skip to content

Adroddiad Beca am Fis Ebrill 2018

    Ein siaradwr gwadd am fis Ebrill oedd Y Comisiynydd Heddlu a Throseddau Dyfed-Powys,  Dafydd Llywelyn o Landysul a chroesawyd ef gan Eifion Evans y Cadeirydd.

    Bu’n byw am gyfnod ym Moncath tra oedd ei dad yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Y Preseli ond yn ystod ei oes mae wedi byw yn amryw ardal o fewn dalgylch heddlu Dyfed-Powys ac yn teimlo ei fod yn adnabod ei ardal yn dda. Mae’n briod a Carys ac mae ganddynt bump o blant.

    Ar ôl graddio mewn cwrs busnes bu’n gweithio i gwmni electronic Sony cyn derbyn swydd ystadegydd gan yr Heddlu yn eu pencadlys yng Nghaerfyrddin ac yn ystod ei gyfnod yno bu’n gweithio hefyd yn yr adran cudd-wybodaeth. Gadawodd yr heddlu i fod yn ddarlithydd yn y pwnc troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu’n gwneud hynny am ddwy flynedd cyn ymgeisio am ei swydd bresennol.

    Yn ystod ei gyflwyniad bu’n egluro’n gryno am ddyletswyddau’r Comisiynydd ac am ei frwdfrydedd personol i wella perfformiad y llu yn ein hardal.

    Dwi’n siŵr ein bod wedi dysgu llawer yn ystod ei gyflwyniad a diolchwyd iddo gan Eifion a Roy. Ar ddiwedd y noson darparwyd cawl are ein cyfer gan Janice a Paul yn absenoldeb Rob.