Skip to content

Adloniant Tachwedd 2014

    IMG_6503

    Yn y llun uchod gweler Cynwyl Davies, Ken Thomas, Calfin Griffiths ac Eifion Evans, swyddogion Cymdeithas Cenedlaethol yr Hoelion Wyth yn cyflwyno siec am £500 i Sister Yvonne Davies, ysbyty Glangwili er budd Clefyd y Siwgwr.

    Cynhaliwyd noson o adloniant dan nawdd Cymdeithas Cenedlaethol yr Hoelion Wyth yng nghlwb carafannau’r Cwrwgle yng Nghenarth ar nos Wener,; Tachwedd 7fed. Arweinydd y noson oedd Eurfyl Lewis a bu yntau’n cyflwyno Bois y Frenni a Clive Edwards. Cafwyd noson hyfryd yn eu cwmni a braf oedd gweld y gynulleidfa’n mwynhau mas draw wrth wrando arnynt yn morio canu ac adrodd storie carlamus. Bu’n bleser hefyd i gael cwmni “Myfanwy” am gyfnod,; edrychwn mlaen i’w chyfarfod eto’n fuan!; Bu Calfin Griffiths,; Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn cyflwyno siec o £500 i Ymchwil Cancr Cymru drwy law Carol Davies (; Apel Penny Farthing ); yn ystod yr egwyl. Gwnaed elw o dros £600 ar y noson a bydd hwn yn cael ei gyflwyno i Gancr y Prostad a’r Ceilliau’n fuan. Diolchodd Eurfyl i Bois y Frenni a Clive Edwards am noson wych o adloniant ac i bawb wnaeth gefnogi’r noson.

    P1000564