Skip to content

Taith ddirgel cangen Beca

    I orffen tymor 2022-23 trefnodd Eurfyl daith ddirgel. Daeth bws Cwm Taf gyda Tudur wrth y llyw i’n casglu o Gaffi Beca a theithion tuag at  Penblewin cyn troi i gyfeiriad Caerfyrddin ac yna am Abertawe o gylchdro Pensarn. Erbyn hyn roedd ambell aelod yn meddwl bod noson mewn clwb nos yn Abertawe i fod! Ta waeth, yn fuan ar ôl cyrraedd Crosshands sylweddolon mae cyrchfan y daith oedd pencadlys y cyflenwyr a’r dosbarthwyr bwyd Castell Howell. Yno i’n cyfarfod oedd un o’r cyfarwyddwyr, Martin Jones mab Brian Jones, sefydlydd y cwmni. Arweiniwyd ni i ystafell gyfarfod cyn cael te/choffi ac ambell beth melys o wneuthuriad Castell Howell wrth wylio fidio byr oedd yn adrodd hanes sefydlu’r cwmni.

    Sefydlwyd y cwmni yn 1988 ar fferm y teulu, Castell Howell, Trevaughan. Ers hynny mae’r cwmni wedi datblygu i fod yn un fawr a phwysleisiodd Martin fod hyn i gyd wedi ei wireddi drwy gymorth reolwyr da ac aelodau o staff ffyddlon a brwdfrydig.

    Yn dilyn y croesawu gofynnwyd i ni wisgo ein siacedi llachar cyn dechrau ein taith o gwmpas y safle. Cawsom weld ychydig o’r swyddfeydd cyn mynd i’r stordai, cefn un lori a threulio ychydig o eiliadau yn yr oergell. Braf oedd dianc o’r fan hynny cyn mynd allan i’r haul a chrwydro o gwmpas y fflyd o loriau’r cwmni cyn dychwelyd i’r ystafell gyfarfod a chael cyfle i holi ambell gwestiwn.

    Diolchodd Eifion i Martin am y cyflwyniad, yr holl wybodaeth difyr a’r daith o gwmpas y safle. Roedd wedi bod yn agoriad llygad i bawb. Troi i’r gorllewin wedyn a galw fewn i gael pryd hyfryd o fwyd ar ein ffordd yn nhafarn Y Butchers, Llanddarog. Diolch i Eurfyl am drefnu’r daith a diolch i Tudur am ein tywys yn ddiogel.

    Hun-lun- Eurfyl a ni fel criw gyda Martin Jones ar y dde
    Cael eglurhad yn o’r storfeydd
    Rhan arall o’r storfa
    Tu fewn i lori wag bydd ddim yn wag am hir!