Skip to content

Cyfarfod Chwefror 2023

    Cyfarfu aelodau Hoelion Wyth Beca ar nos Fercher, Chwefror 22ain, yng Nghaffi Beca, Efailwen fel arfer. Croesawyd pawb ynghyd gan y Cadeirydd Eifion Evans cyn iddo gyflwyno’r siaradwr gwadd sef John Davies, neu John Cwmbetws, fel mae pawb yn ei adnabod. Dechreuodd John drwy atgoffa’r aelode ei fod wedi bod yn siaradwr gwadd gyda’r gangen tua 20 mlynedd yn ôl, pan fu’n son am gymeriadau’r fro. Fe wnaeth hefyd longyfarch Cymdeithas yr Hoelion Wyth am yr holl waith maent yn ei wneud trwy godi arian tuag at amrywiol elusennau.

    Testun anerchiad John oedd ei gysylltiad gyda’r Sioe Frenhinol dros y pum degawd dwetha. Cafodd ei gyflwyno i’r sioe yn 1975 drwy ei gysylltiad gyda’r Ffermwyr Ifanc pan oedd yn aelod o glwb Eglwyswrw. Bu’n cystadlu mewn cystadleuaeth coginio tarten fale – ac enillodd e! Cafodd ei gyfweliad cyntaf ar y teledu, gyda’r bytholwyrdd Beti George yn ei holi!

    Bu’n mynychu’r sioe yng nghwmni ei rieni a’i chwiorydd, yn flynyddol, pan yn blentyn, ac mae wedi para i wneud hyn bob blwyddyn ers hynny. Yn 1984 cafodd “screen test” gyda HTV, Tir Na Nôg a Ffilmiau’r Nant ar gyfer rhaglenni teledu yn ymwneud a’r Sioe a chafodd fwynhad mawr yn eu cyflwyno.

    Yn 1991, Shir Benfro oedd yn noddi’r sioe a cafodd John wahoddiad i feirniadu’r Sioe Dalent, profiad pleserus iawn iddo. Hefyd yn y sioe honno, enillodd Tom Cwmbetws, ei diweddar dad, wrth arddangos cobyn o’r enw Drygarn Delyth – dyna beth oedd sioe i’w chofio!

    Yn 2007, tro Shir Benfro oedd noddi unwaith yn rhagor. Gwnaeth Edward ac Eireen Perkins, llywyddion y sioe, holi John i agor y sioe yn swyddogol – hynny yn rhinwedd ei swydd fel arweinydd Cyngor Sir Penfro. Bu hyn yn fraint ac yn anrhydedd fawr iddo. Mae’n rhaid ei fod wedi creu argraff fawr ar aelodau o bwyllgor rheoli’r sioe gan iddo dderbyn gwahoddiad i ymuno a’r pwyllgor y flwyddyn wedyn! Erbyn 2012, pedair blynedd ers ymuno a’r pwyllgor, cafodd ei ethol yn gadeirydd, swydd wnaeth e gyflawni yn ddi-dor am 10 mlynedd. Yn fuan wedi iddo ddechrau fel cadeirydd, gwnaeth David Walters, prif weithredwr y sioe, ymddeol – ar ôl bod yn y swydd am 34 mlynedd. Roedd rhaid bwrw ati ar unwaith i chwilio am olynydd iddo a llwyddwyd i wneud hynny wrth apwyntio Steve Hughson, cyn uwch brif arolygydd gyda’r heddlu. Roedd y sioe wedi gwneud elw o £78,000 yn 2012, ond llai na degawd yn ddiweddarach, roedd trosiant y sioe yn £6.5 miliwn gydag elw o £600,000.

    Yn ôl John, bu’n ddegawd o gadeirio cyfarfodydd di-ri, derbyn ac ateb e-byst niferus wrth y prif weithredwr, yn ogystal â bod yn wyneb ac yn lais i’r sioe ar y cyfryngau. Mae wedi cyfarfod gyda phob prif weinidog ers Gordon Brown – David Cameron, Theresa May, Boris Johnson, Liz Truss a Rishi Sunak, yn ogystal â phrif weinidogion Senedd Cymru sef Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Mark Drakeford.

    Bu’n fraint iddo gael cydweithio gyda mawrion y genedl megis Meurig Rees, Alun Davies a Dai Lewis – Dai Lewis yw’r unig unigolyn sydd wedi dal y dair swydd uchaf o fewn y gymdeithas; fel llywydd, Cadeirydd y Bwrdd a Chadeirydd y  Cyngor. Derbyniodd John fedal aur y Gymdeithas ac Is Lywyddiaeth oes er anrhydedd am ei wasanaeth nodedig, ar ôl arwain fel cadeirydd am 10 mlynedd.

    Cafwyd cyfle i holi ambell gwestiwn i John ar y diwedd a diolchwyd iddo’n ddiffuant gan Eifion, am noson wirioneddol wych.

    Bu pawb yn mwynhau basned o gawl bendigedig Robert  cyn mynd am adref. Byddwn yn cyfarfod nesaf ar nos Fercher, Mawrth 29ain pan fydd Mike Thomas o Hwlffordd yn ein hannerch.