Skip to content

Eisteddfod 2022

    Sam Jones a’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan – beiriaid parchus yr Eisteddfod.

    Geraint Morgan, enillydd y goron am gerdd ddigri

    Eurfyl Lewis, enillydd y gadair am gyfansoddi telyneg.

    Cynhaliwyd Eisteddfod blynyddol yr Hoelion Wyth yng Ngwesty’r Talbot, Tregaron ar nos Wener, Hydref 28ain. Arweinydd y noson oedd John Jones, Ffair Rhos a’r ddau feirniad oedd y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Talybont a Sam Jones, Tregaron. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y nos a cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan i gangen Cors Caron a cyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf hefyd i gangen Cors Caron. Enillwyd y gadair am ysgrifennu telyneg ar y testun “Cors” gan Eurfyl Lewis, Beca a’r goron am ysgrifennu cerdd ddigri ar y testun “Hoelen” gan Geraint Morgan, Cors Caron – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Cyflwynwyd Tlws cangen Aberporth am y perfformiad gorau ar y llwyfan ( dweud joc ) gan Wyn Evans, Sion Cwilt. Cyflwynwyd tlws coffa Huw Griffiths I Eurfyl Lewis, Beca – Aelod o’r Cor buddugol.Cafwyd noson hyfryd yng nghwmni’n gilydd a diolchodd Peredur Evans, Cors Caron i Gwenallt a Sam am feirniadu, i John am arwain y noson yn ei ffordd unigryw, i Westy’r Talbot am ddarparu cawl ac am ganiatau i ni gynnal yr Eisteddfod yno  ac i aelodau’r canghennau am eu cefnogaeth. Roedd hi’n wych cael dod at ein gilydd unwaith yn rhagor ar ol cyfnod dieflyg y Covid a treuliwyd amser hyfryd yn cymdeithasu’n braf ar derfyn yr Eisteddfod.

    Dyma restr y canlyniadau:-

    Dweud Joc

    1. Wyn Evans, Sion Cwilt
    2. Charles Arch, Cors Caron
    3. Eifion Evans, Beca

    Carioci

    1. Huw Davies, Cors Caron
    2. Iwan Davies, Sion Cwilt

    Sgetsh

    1. Cors Caron
    2. Sion Cwilt
    3. Beca

    Parti Gor adrodd

    1. Cors Caron
      1. Beca
      1. Sion Cwilt

    Cor

    1. Beca
    2. Sion Cwilt a Cors Caron

    Brawddeg ar y gair “CYMYDOG”

    1. Calfin Griffiths, Sion Cwilt
    2. Eurfyl Lewis, Beca
    3. Alun Davies, Cors Caron

    Brysneges ar y lythyren “P”

    1. Haydn Lewis, Sion Cwilt
    2. Alun Davies, Cors Caron
    3. Odwyn Davies, Cors Caron

    Limrig yn cynnwys y llinell “ Ma’r Steddfod wedi bod yn Nhregaron”.

    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. John Jones, Cors Caron
    3. Peredur Evans, Cors Caron

    Telyneg ar y testun “Cors”

    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. John Jones, Cors Caron

     Cerdd ddigri ar y testun “Hoelen”.

    1. Geraint Morgan, Cors Caron