Yng nghyfarfod mis Tachwedd croesawodd y Cadeirydd, Mr Verian Williams, y wraig wâdd sef Y Parchg. Beti Wyn James o Gaerfyrddin. Cafwyd noson ddiddorol pan roddodd hanes ei phrofiad, fel gwraig ifanc a mam, yn y weinidogaeth. Roedd pawb wedi mwynhau ei haraith a diolchodd Mr Cynwyl Davies iddi ar ddiwedd y noson.