Skip to content

Mawrth 2013

    Cynhaliwyd pumed cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Mawrth 27ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lynn Howells cyn iddo groesawu’r wraig wadd sef Hedydd Hughes o Abergweun. Mae Hedydd yn gweithio i Menter Iaith Sir Benfro ar brosiect tafodiaeth Sir Benfro a cawsom fraslun ganddi o beth mae wedi ei gyflawni hyd yn hyn – yn cynnwys cynnal gweithdai gyda phlant mewn llawer o ysgolion, recordio sgyrsiau yng nghwmni nifer o gymeriadau amlwg yn ogystal a’r holl waith ymchwil trwyadl mae wedi ei wneud. Cafwyd noson ddiddorol iawn yn ei chwmni a diolchwyd i Hedydd gan Huw Griffiths. Diolch i Robert am weini cawl blasus iawn yn ol ei arfer